Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Dyddiad: 19 Hydref 2011

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd

Teitl: Craffu ar y Gyllideb Ddrafft

 

1. Diben

 

Darparu papur tystiolaeth ar gyllidebau a blaenoriaethau'r Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Phlant o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

 

2. Cyflwyniad

 

Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am gynigion cyllideb yn y dyfodol ar gyfer 2012-13 hyd at 2014-15.

 

3. Trosolwg o'r Gyllideb

 

Mae tri Maes Gweithredu penodol o fewn y Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant sy’n cwmpasu Gwasanaethau Plant, sef:

 

 

 

mae’r ddau faes hyn o fewn Maes Rhaglenni Gwariant y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn cynrychioli 60.1% o gyfanswm y Maes Rhaglenni Gwariant, a

 

 

Mae’r tabl isod yn dangos y Cyllidebau ar gyfer y tri Maes Gweithredu hyn.

 

Refeniw (£ miliwn)

2011-12

2012-13

2013-14

2014-15

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

 

 

 

 

Llinell sylfaen

 

12.308

12.308

12.308

Newidiadau

 

(4.297)

(4.297)

(4.297)

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

12.308

  8.011

  8.011

  8.011

 

 

 

 

 

Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

 

 

 

 

Llinell Sylfaen

 

96.341

99.398

99.398

Newidiadau

 

6.340

21.340

31.340

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

94.294

102.681

120.738

130.738

Rhaglenni CAFCASS Cymru

Llinell Sylfaen

Dim Newidiadau

 

 

 

 

 

9.635

 

 

9.167

 

 

9.167

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

10.138

9.635

9.167

9.167

Cyfanswm

116.740

120.327

137.916

147.916

Noder - nodir crynodeb o'r newidiadau i linellau uchod y gyllideb Meysydd Gweithredu yn adran 8 o'r papur hwn

 

(b) Yn ogystal â hyn, cafodd Awdurdodau Lleol £1.3 biliwn i gyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn eu setliad refeniw yn 2010-11. O'r cyfanswm hwn, cafodd £417 miliwn ei wario ar wasanaethau plant a theuluoedd.

 

(c) Caiff y gwaith o ddarparu gwasanaethau'r GIG mewn perthynas â phlant, cyflyrau meddygol plant ac iechyd cyffredinol plant ei ariannu'n rhannol drwy'r dyraniadau refeniw blynyddol i Fyrddau Iechyd. Cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd yw pennu sut y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio ymhob un o'u meysydd cyfrifoldeb i ddiwallu anghenion iechyd eu poblogaethau lleol.

 

Fodd bynnag, mae'r Gyllideb Ddrafft yn dangos dyraniadau penodol ar gyfer y meysydd canlynol:

 

Dyraniadau penodol (£ miliwn)

2012-13

2013-14

2014-15

Plant sy'n Agored i Niwed

3.9

3.9

3.9

CAMHS

2.1

2.1

2.1

Dechrau'n Deg

46.6

60.6

70.6

Cyfanswm

52.6

66.6

76.6

 

(ch) Yn ogystal â'r symiau penodol a gyllidebwyd, mae sefydliadau'r GIG yn gwario tua £44 miliwn y flwyddyn ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (Ffynhonnell: Cyllidebau Rhaglenni Gwariant y GIG 2009-10; y Gyfarwyddiaeth Ystadegol; Llywodraeth Cymru 2011)

 

4. Cyllidebu ar gyfer Plant

 

Yn yr adran hon, mae'r diffiniad o Blant yn unol â'r hyn a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) - mae hyn yn cynnwys plant 0 oed hyd at, ond heb gynnwys 18 oed.

 

Mae cyllidebu ar gyfer plant yn rhan o Flaenoriaeth 15 Cynllun Gweithredu 'Getting it Right' CCUHP ar gyfer 2009. Rhaglen dreigl bum mlynedd yw hon i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn. Mae Blaenoriaeth 15 yn ymwneud â gwella tryloywder y gwaith o gyllidebu ar gyfer plant a phobl ifanc ar lefel Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn uniongyrchol gysylltiedig ag Erthyglau 4 a 12 o'r Confensiwn sy'n nodi y dylai Llywodraethau weithio'n unol â CCUHP a'r hawliau a nodir ynddo hyd eithaf eu gallu o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddynt, ac y dylai plant a phobl ifanc fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt.

 

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a ddaeth i rym ym mis Mai 2011, yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a'r Prif Weinidog i roi sylw dyledus i'r hawliau a'r rhwymedigaethau yn CCUHP a'i Brotocolau Dewisol wrth:

 

Bydd y ddwy fenter hon yn cydweithredu ac yn rhan o Fesur Goblygiadau Cyffredinol sydd ar gam datblygu cynnar.

5. Datganiadau Cyllideb

 

Yn yr adran hon, mae'r diffiniad o Blant yn unol â'r hyn a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) - mae hyn yn cynnwys plant 0 oed hyd at, ond heb gynnwys 18 oed.

 

Ym mis Gorffennaf 2010, gwnaethom gyhoeddi ein dadansoddiad diweddaraf o'r gyllideb, a oedd yn cynnwys gwariant cyllidebol fesul grŵp oedran.  Fodd bynnag, mae hyn yn dadansoddi faint sy'n cael ei wario ar blant, nid faint sy'n cael ei gyllidebu.

 

Fel y nododd ein hymateb blaenorol i'r Pwyllgor hwn, rydym yn bwriadu cyhoeddi'r dadansoddiad hwn bob tair blynedd i gyd-daro â'r gwaith o gyhoeddi'r Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc. Yn y cyfamser rydym yn bwriadu parhau i ystyried dulliau eraill, gan gynnwys llunio Datganiadau Cyllideb Plant a Phobl Ifanc. Nid yw'n bosibl gwneud hyn ar y cam hwn gan y bydd angen gwneud rhagor o waith yn gyntaf.

 

6. Blaenoriaethau

 

Mae ymrwymiadau ein Maniffesto yn canolbwyntio'n glir ar roi cychwyn cadarn mewn bywyd i blant. Rydym am sicrhau bod plant yn cael y gofal sydd ei angen arnynt mor agos i'w cartrefi â phosibl mewn system integredig, diogel a chynaliadwy. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer iechyd plant Cymru fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

7.  Ymrwymiadau'r Maniffesto

 

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi'n benodol ymrwymiadau'r maniffesto y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant a'u teuluoedd a gaiff eu cyflawni yn ystod y pedair blynedd nesaf a dyma fydd ein prif flaenoriaethau ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn.

 

Yn fwy penodol, mae'r Llywodraeth wedi amlygu pum addewid benodol sy'n arbennig o bwysig, sef 'Pump am Ddyfodol Tecach'. Mae'r Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant yn uniongyrchol gyfrifol am gyflawni dwy o'r addewidion hyn, ac mae'r canlynol yn benodol i Blant;

 

(a) Ehangu'r Rhaglen Dechrau'n Deg

 

Mae'r Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant wedi cael cyllid ychwanegol gwerth £55m dros y tair blynedd nesaf mewn perthynas â'i raglen 'Dechrau'n Deg' a fydd yn cael effaith sylweddol ar gyfleoedd bywyd y rheini sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

 

Byddwn yn dyblu nifer y Plant sy'n cael budd o ymweliadau iechyd gwell, mwy o leoedd am ddim mewn meithrinfeydd a chymorth gwell i deuluoedd drwy ein rhaglen 'Dechrau'n Deg'.

 

Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n nodi bod buddsoddi mwy yn ystod blynyddoedd cynnar plant o deuluoedd difreintiedig yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u canlyniadau dysgu yn y byrdymor ac yn gwella eu sgiliau ac yn cau bylchau o ran canlyniadau dysgu i blant sy'n byw mewn tlodi yn yr hirdymor. Ar y dechrau, roedd Dechrau'n Deg yn seiliedig ar ddull integredig o ddarparu gwasanaethau gyda digon o fuddsoddiad i wella canlyniadau i blant.

 

Mae'r rhaglen yn rhagnodol. Mae pedair elfen allweddol yn ffurfio'r egwyddor graidd y mae Dechrau'n Deg yn ei chynnig i deuluoedd, sef:

 

 

 

 

 

Caiff y gwaith o ehangu'r rhaglen ei gyflwyno fesul cam dros nifer o flynyddoedd er mwyn gallu recriwtio a hyfforddi ymwelwyr iechyd a gweithwyr gofal plant ychwanegol; hyfforddi staff ychwanegol i ddarparu rhaglenni rhianta; a darparu elfen o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn datblygu'r seilwaith angenrheidiol ar gyfer darparu gofal plant ac elfennau allweddol eraill o'r rhaglen.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i baratoi cynlluniau gweithredu manwl a blaenoriaethu adnoddau i gyflawni holl ymrwymiadau maniffesto'r Llywodraeth dros y pedair blynedd nesaf.

 

(b) Cyflwyno Gwasanaeth Integredig Cymorth i deuluoedd (GCTI)

 

Mae GCTI yn wasanaeth statudol i atgyfnerthu'r cymorth sydd ar gael i blant a theuluoedd sy'n agored i niwed. Mae GCTI yn rhoi cymorth dwys i deuluoedd ar gam cynharach lle mae rhiant yn camddefnyddio sylweddau ac felly'n gwneud y plentyn yn fwy agored i niwed. Mae teuluoedd sy'n defnyddio GCTI yn cael budd o gymorth tîm medrus o weithwyr proffesiynol amlasiantaethol sy'n gweithio'n galed gyda phlant a theuluoedd. Mae'r timau hefyd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner a gweithwyr proffesiynol i sicrhau y gall y teulu ddefnyddio ystod eang o wasanaethau yn ddi-oed i'w galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw er budd y plentyn.

 

Gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r pedwar maes arloesi, mae GCTI yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Bydd chwe awdurdod lleol arall a'u Byrddau Iechyd Lleol yn gweithredu GCTI erbyn gwanwyn 2012.

 

(c) Tlodi Plant

 

Mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn ei gwneud yn bwysicach fyth i ni gadw at ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi plant. Ein prif flaenoriaeth yn ddiau yw sicrhau bod plant a phobl ifanc y mae tlodi yn effeithio ar eu bywydau yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phawb arall yng Nghymru.

 

Dyma pam mai Llywodraeth Cymru oedd un o'r sefydliadau cyntaf i basio deddfwriaeth benodol ar dlodi plant. Bellach, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill nodi pa gamau y maent yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant.

 

Mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn nodi'r hyn y gallwn ei wneud i helpu i leihau tlodi plant a gwella canlyniadau i deuluoedd incwm isel.

 

Bydd y Cynllun Gweithredu Gwrth-dlodi sy'n cael ei ddatblygu fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu newydd yn rhoi diweddariadau rheolaidd ac yn cynnwys manylion am ganlyniadau mesuradwy i ddangos cynnydd o ran gweithredu'r strategaeth tlodi plant.

 

Bydd y gwaith o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Gwrth-dlodi yn helpu i sefydlu system gydweithredol ymhob rhan o Lywodraeth Cymru ac ymysg ein partneriaid i fynd i'r afael â'r materion difrifol iawn sy'n achosi tlodi yng Nghymru.

 

 Bydd hyn yn atgyfnerthu ein dull o fynd i'r afael â thlodi plant gan y bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ystod ehangach o raglenni i fynd i'r afael â thlodi, er enghraifft drwy ailalinio Cymunedau yn Gyntaf fel rhaglen wrthdlodi flaenllaw sy'n ein helpu i fynd i'r afael â thlodi rhwng cenedlaethau sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn.

 

Mae ein gallu i leihau tlodi plant yng Nghymru yn amlwg yn dibynnu ar gamau a gymerir gan Lywodraeth y DU, yn arbennig mewn meysydd annatganoledig megis treth a thaliadau lles.  Rydym yn rhannu'r pryderon sydd gan lawer o bobl am gyflymdra'r diwygiadau lles a budd-daliadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gweithredu, a'r effeithiau posibl y bydd y newidiadau hyn yn eu cael ar blant yng Nghymru.

 

(ch) Teuluoedd yn Gyntaf - Ffocws ar Anabledd

 

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen arloesi sy'n hyrwyddo'r gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud i ddatblygu systemau a chymorth amlasiantaethol effeithiol, gyda phwyslais clir ar brosesau atal ac ymyrraeth gynnar ar gyfer teuluoedd, yn arbennig y rhai sy'n byw mewn tlodi.

 

Cyfeirir at Deuluoedd yn Gyntaf ymhob rhan o'n maniffesto a chaiff ei nodi fel cyfrwng cyflawni pwysig ar gyfer y Strategaeth Tlodi Plant. Un o'r ymrwymiadau penodol yw "sicrhau ffocws clir ar amgylchiadau plant anabl fel rhan o'n Strategaeth Tlodi Plant a'n rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf".

 

O fis Ebrill 2012, bydd pob un o Awdurdodau Lleol Cymru yn rhan o'r gwaith o ddarparu'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Ar hyn o bryd mae 14 o Awdurdodau Lleol yn ymwneud â'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod ei cham arloesi.

 

Mae swm o £0.5 miliwn wedi'i ymrwymo ar gyfer 2011-2012 yn ystod y cam arloesi ac mae £3m wedi'i ddyrannu o 2012-2013 i gefnogi plant anabl a'u teuluoedd. Daeth yr arian hwn o benderfyniad Llywodraeth y DU i ddirwyn cynllun y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben.

 

 

8. Crynodeb o'r Newidiadau i 'linellau'r gyllideb Meysydd Gweithredu' yn 2012-13

 

(a) Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

 

Mae hwn yn ariannu amrywiaeth o raglenni a datblygiadau polisi i gefnogi plant sy'n agored i niwed a gwasanaethau iechyd plant, gan gynnwys rhoi Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar waith. Ceir gostyngiad net o £4.3 miliwn sy'n adlewyrchu'r trosglwyddiadau cyllidebol canlynol rhwng Meysydd Gweithredu:

 

·         £1.0 miliwn o'r Maes Gweithredu Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas ag arian ar gyfer Plant sy'n Agored i Niwed

 

·         £1.2 miliwn i'r Maes Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd mewn perthynas ag arian ar gyfer CAMHS sy'n trosglwyddo i'r Dyraniad Refeniw BILl

 

·         £0.9 miliwn i'rMaes Gweithredu Cefnogi Polisïau a Deddfwriaeth Iechyd Meddwl mewn perthynas ag arian CAMHS

 

·         £1.4 miliwn i'r Maes Gweithredu Oedolion a Phobl Hŷn mewn perthynas ag arian ar gyfer Awtistiaeth (Plant ac Oedolion)

 

·         £0.5 miliwn i'r Maes Gweithredu Noddi Cyrff Iechyd Cyhoeddus mewn perthynas ag arian ar gyfer Sgrinio Smotiau Gwaed Babanod Newyddanedig

 

·         £1.3 miliwn i'r Maes Gweithredu Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd i atgyfnerthu Cyllidebau Grantiau Plant a Theuluoedd Ifanc

 

(b) Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

 

Mae'r Maes Gweithredu hwn yn darparu amrywiaeth o gymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd i'w helpu i gyflawni eu potensial. Mae rhaglenni wedi'u targedu fel Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg wedi'u cyfeirio at ein teuluoedd mwyaf difreintiedig er mwyn helpu i godi pobl o dlodi a rhoi gwell canlyniadau addysg, iechyd ac economaidd iddynt, ac mae rhaglenni ehangach yn cefnogi gofal plant a chwarae. Mae'r Maes Gweithredu hefyd yn ategu dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran cynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni sy'n rhoi hawliau'r plentyn wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Ceir cynnydd net o £6.3 miliwn yn 2012-13 sy'n cynnwys:

 

·         Dyraniad Ychwanegol - £5.0 miliwn o'r Cronfeydd Canolog Wrth Gefn mewn perthynas â Dechrau'n Deg

 

·         Trosglwyddiadau Rhwng Meysydd Gweithredu - £1.3 miliwn o'r Maes Gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant i gyfnerthu Cyllidebau Grantiau Plant a Theuluoedd Ifanc.

 

(c) Rhaglenni CAFCASS Cymru

 

Mae CAFCASS Cymru yn sefydliad gwaith cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar blant ac sy’n darparu cyngor arbenigol ar waith cymdeithasol i lysoedd achosion teuluol, Llysoedd Sir a’r Uchel Lys. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi dyletswyddau craidd y sefydliad yn ogystal â rhwymedigaethau o dan Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 gan gynnwys y canolfannau cyswllt a’r gweithgareddau cyswllt a ddarperir. Mae trafodaethau manwl yn parhau ar y dyraniad cyllidebol terfynol a disgwylir i ragor o arian gael ei ddyrannu i CAFCASS Cymru yn 2012-13, sydd wedi’i gynnwys yn y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft ac a fydd yn arwain at arbedion effeithlonrwydd o tua 2% o gymharu â dyraniad eleni.